Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Mai 2017
Amser: 08.30 -
09.08
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Cwtogodd y Llywodraeth yr amser a neilltuwyd ar gyfer trafodion Cyfnod 3 o dair awr i ddwy awr.
· Byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 7 Mehefin 2017 -
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl ar 17 Mai.
NDM6301 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar gynnig deddfwriaethol Aelod ar gyfer 12 Gorffennaf 2017 ac adolygu'r weithdrefn yn nhymor yr hydref.
Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU 2016-2017 - Tabl Diweddaraf y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol
· Nododd y Pwyllgor Busnes bapur gan Arweinydd y Tŷ yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt Biliau'r DU a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines y mae'n debyg y bydd angen Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar eu cyfer.
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ynghylch y goblygiadau i'r Pwyllgorau yn sgil ymadawiad Mark Reckless â grŵp UKIP. Cytunodd y Pwyllgor y dylid gwneud pob penderfyniad ynghylch y newid ar yr un pryd, a hynny maes o law.
Bydd y Rheolwyr Busnes yn hysbysu'r Llywydd pan fyddant mewn sefyllfa i drafod y mater eto yn y Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan Jane Hutt i amserlennu'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar 21 Mehefin fel yr eitem olaf cyn y Ddadl Fer ar y diwrnod hwnnw gan ei fod allan o'r wlad ar fusnes y Llywodraeth, gan ddychwelyd i Gaerdydd yn gynnar yn y prynhawn.